Vehicles
Taith operatig drwy'r gofod yn seiliedig ar hanes trafnidiaeth bodau dynol...
Mae Vehicles yn brosiect gwyddoniaeth ac opera addysgol ar gyfer plant 6 - 12 oed.
Stori dau ofodwr yn cychwyn ar daith i'r gofod yw Vehicles ond mae rhywbeth yn mynd o'i le yn ofnadwy. Ymunwch â Chapten Houston a’r Is-gapten Schmidt wrth iddynt fynd ar antur teithio amser trwy hanes trafnidiaeth.
Ar eu mordaith operatig, mae Capten Houston a’r Is-gapten Schmidt yn teithio yn ôl mewn amser i weld ceir, lorïau, beiciau, balŵns a chychod o’u llong ofod ryfeddol. Yn cael ei pherfformio gan gantorion / cerddorion byw ar y llwyfan, bydd gwylwyr yn profi sut y datblygodd trafnidiaeth trwy gydol hanes. Mae Vehicles yn dathlu creadigrwydd ac arloesedd mewn cerddoriaeth a pheirianneg - yn ogystal ag archwilio hanes trafnidiaeth ddynol.
Mae’r cyfansoddwr Martyn Harry wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn ymchwilio i themâu’r opera a’i datblygu’n addas ar gyfer y grŵp oedran hwn, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau STEAM.
Sut i ymgysylltu â Vehicles
Mae'r prosiect Vehicles yn brosiect Addysg STEAM, sy'n dwyn ynghyd:
- Opera a gyfansoddwyd yn arbennig wedi ei chreu mewn 6 rhan
- Set o 5 o adnoddau ysgol animeiddiedig STEAM Education yn archwilio grymoedd, disgyrchiant, ffrithiant a sgiliau creadigol
- Cynllun Dosbarth Vehicles gydag ystod eang o weithgareddau ar gyfer y dosbarth
CLICIWCH YMA I FYNEDIAD I'R SAFLE VEHICLES (English only)
Perfformwyr: Nia Coleman, Alice Privett, Peter Martin, Oscar Castellino
Cyfansoddwr - Martyn Harry / Cyfarwyddwr - Rhian Hutchings / Cyfarwyddwr Cerdd - Yshani Perinpanayagam / Dylunydd - Bethany Seddon / Dylunydd Goleuadau - Chris Illingworth / Gwneuthurwr Ffilmiau - Fez Miah & Lewis Monk / Cynhyrchydd - Laura Drane / Swn - COBRA Studios
Wedi'i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Brifysgol Rhydychen, y John Fell Fund, Casnewydd Fyw, Torch Research Centre ac Action Transport Theatre.